#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-809

Teitl y ddeiseb: Is-ddeddfau Pysgota Arfaethedig Newydd a methiannau CNC

Testun y ddeiseb:

Fel mater o frys, gofynnwn i Weinidog y Cabinet ymchwilio i ymddygiad Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses ymgynghori a’r argymhelliad i wneud newidiadau i is-ddeddfau pysgota gwialen a llinell yng Nghyfarfod y Bwrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Ionawr 2018, cyn derbyn unrhyw gynigion i newid is-ddeddfau pysgota presennol.

 1. Methodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru â dilyn y drefn ddemocrataidd drwy wrthod caniatáu i aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru bleidleisio ar gynigion newydd o ran Is-ddeddfau pysgota newydd gan bysgotwyr gwialen a llinell. Mabwysiadodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru safiad didrugaredd, ac anwybyddodd bryderon y rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori ac aelodau Bwrdd llawn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfarfod.

 2. Argymhellodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru newidiadau i’r Is-ddeddfau i Gynulliad Cymru ac yntau wedi ardystio yng nghyfarfod y Bwrdd na fyddai’r cynigion yn effeithio llawer, neu ddim o gwbl, ar leihau stociau eogiaid a brithyllod môr o fewn dalgylchoedd afonydd mewndirol ledled Cymru.

 3. Gyda Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydnabod bod "materion eraill" sy’n cyfrannu at leihau’r stociau eog a brithyllod môr, methasant â blaenoriaethu a gweithredu ar y "materion eraill" hyn, ac maent wedi gwneud hynny dros nifer o ddegawdau, heb gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn torri gofynion Adran 6 (6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn methu â chyflawni ei hamcan o leihau’r risg i lefelau stoc eog a brithyllod môr yn afonydd Cymru, yn enwedig o ran:

 (a) Atal, monitro, gorfodi ac erlyn yn effeithiol o ran llygredd.

 (b) Monitro ysglyfaethu bywyd gwyllt ac argymell rheolaethau cymesur.

 Gwybodaeth ychwanegol

 4.       Derbyniodd Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn agored yng nghyfarfod y Bwrdd eu bod wedi methu â chyfathrebu’n effeithiol a mabwysiadu polisi o weithredu cytundebau gyda rhanddeiliaid, y disgwylir iddynt fonitro ac adrodd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru a gorfodi’n wirfoddol y newidiadau arfaethedig i is-ddeddfau, y mae llawer yn anghytuno â nhw.

 5.       Methwyd â mabwysiadu strategaeth, a gydnabyddir fel arfer gorau mewn gwledydd eraill, i fonitro ac asesu risg pob afon yn gywir, nac argymell dim sancsiynau fesul afon unigol, gyda rhanddeiliaid perthnasol.

 6.       Mae Bwrdd a Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â bodloni gofynion gofal a diwydrwydd dyladwy yn ystod y broses ymgynghori, a arweiniodd at fethiant i gydnabod pamor bwysig yw sut y bydd eu his-ddeddfau newydd yn effeithio’n andwyol ar:

 (a) Gyfleoedd pysgota hamdden, budd economaidd i gymunedau gwledig ac arfordirol, a hefyd maent yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 (b) Ewyllys da rhanddeiliaid sydd wedi monitro a gwarchod yr amgylchedd naturiol yn effeithiol heb Cyfoeth Naturiol Cymru ers dros ddegawd, a pheryglwyd yr ewyllys da barhaus honno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Y cefndir

Mae 33 o afonydd yng Nghymru sy’n cynnwys rhywfaint o eogiaidac, o’r rhain, caiff 23 eu dynodi fel prif afonydd eogiaid (PDF 155KB). O’r 23 o afonydd hyn, mae pedair wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd. Mae terfynau cadwraeth a thargedau rheoli wedi’u sefydlu ar gyfer y prif afonydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gyfrifol am reoli pysgodfeydd mewndirol a physgodfeydd eogiaid yng Nghymru. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru, fel awdurdodau pysgodfeydd eraill yn y DU, bwerau i lunio is-ddeddfau cenedlaethol a lleol i gynorthwyo â’r gwaith o ran cadwraeth stociau pysgod yn afonydd Cymru. Mae’r is-ddeddfau hyn yn rhoi nifer o fesurau rheoli ymdrech ar waith i sicrhau bod stociau’n cael eu defnyddio'n gynaliadwy. Gall y rhain gynnwys mesurau megis cyfyngiadau o ran pa daclau y gellir eu defnyddio i bysgota rhywogaethau gwahanol, adegau’r flwyddyn y gellir pysgota rhywogaethau gwahanol a'r lleoliadau lle y gellir pysgota rhywogaethau gwahanol. Un dull rheoli ymdrech yw 'dal a rhyddhau'; mae hyn yn ofyniad i bob pysgotwr ddychwelyd y pysgod y maent yn eu dal i'r afon (heb eu lladd).

Gall CNC wneud is-ddeddfau drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 210 a pharagraff 6 o Atodlen 25 i Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Mae Atodlen 26 o'r Ddeddf yn nodi gweithdrefn i'w dilyn er mwyn gwneud yr is-ddeddfau sy'n cynnwys proses ar gyfer ymchwiliad lleol os ceir gwrthwynebiadau.

Dyletswydd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Mewn perthynas â phwynt 3 y ddeiseb, mae Adran 6(6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn datgan:

6. Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

(1) Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.

(6) Rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn cydymffurfio ag is-adran (1)..

Mae CNC yn gyfrifol am ddatblygu Datganiadau Ardal, sef gofyniad Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Polisi ar Adnoddau Naturiol yn canolbwyntio ar gyflawni nodau rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol ac yn gosod y cyd-destun ar gyfer Datganiadau Ardal. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar adran 6, Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau yn nodi'r canlynol:

Bydd Datganiadau Ardal yn:

·         Darparu tystiolaeth i gefnogi awdurdodau cyhoeddus wrth gydymffurfio â dyletswydd A6

Mae CNC hefyd yn cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Basn Afon sy'n edrych ar y pwysau sy'n wynebu amgylchedd dŵr Cymru.

Bwrdd CNC

Nodir Telerau Cyfrifoldeb Bwrdd CNC mewn papur sydd ar gael i'r cyhoedd sy'n nodi'r canlynol:

Bydd y Cadeirydd yn cloi pob eitem ar yr agenda yn glir gyda chrynodeb o'r drafodaeth; yn cadarnhau unrhyw gamau i’w gweithredu a'r penderfyniadau a gymerwyd.

Nid oes gwybodaeth ar gael a oes angen pleidlais i basio penderfyniadau.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb dros reoli pysgodfeydd eogiaid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae CNC wedi bod yn mynd trwy broses o ystyried pa gamau ychwanegol y gall fod eu hangen, os oes rhai, i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn stociau eogiaid yn afonydd Cymru.

Ar 17 Mawrth 2016, cyflwynwyd papuri Fwrdd CNC a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu a gymerwyd gan CNC yn ystod y flwyddyn flaenorol i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn stociau.  Amlinellodd gynigion ar gyfer rhagor o gamau gweithredu. Roedd y papur yn nodi, er nad yw CNC o’r farn mai pysgota â gwiail a rhwydi yw prif achos y dirywiad mewn stociau, ei fod yn credu na ellir cynyddu nifer y pysgod sy’n goroesi i’r cam silio mewn afonydd yng Nghymru, yn y tymor byr, ‘oni bai bod pysgotwyr â gwiail a rhwydi’n rhoi’r gorau i ladd pysgod yn gyfan gwbl’.

Mae CNC yn datgan ei fod wedi ymgynghori’n ffurfiol ac yn anffurfiol â physgotwyr a grwpiau pysgodfeydd lleol ar y camau gweithredu posibl y gellir eu cymryd i reoli stociau eogiaid, gan gynnwys drwy ddosbarthu holiadur.

Yn 2017, cynhaliodd CNC ymgynghoriad ar reoliadau dalfeydd eogiaid a sewin. Roedd yr ymgynghoriad mewn 3 rhan ac roedd pob un yn edrych ar y canlynol:

§    Y cais am Orchymyn Cyfyngu ar Rwydi 'Cymru Gyfan' 2017 newydd;

§    Cynigion ar gyfer is-ddeddfau pysgota rhwyd ​​a gwialen newydd ar draws Cymru gyfan (ac eithrio afonydd trawsffiniol Dyfrdwy, Hafren a Gwy); a 

§    Chynigion ar gyfer 'Is-ddeddfau Trawsffiniol (Cymru)' newydd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r tair afon hynny.

Cyflwynodd CNC Achos Technegol yn cefnogi'r ymgynghoriad, a Chrynodeb Gweithredol sy'n edrych ar yr opsiynau a ystyriwyd. Daeth CNC i'r casgliad canlynol ar gyfer cyfnod 10 mlynedd:

a ‘zero kill’ policy for salmon and some identified sea trout stocks through statutory catch-and-release fishing with appropriate restrictions on fishing methods – regulation of exploitation through new byelaw.

Mae'r Achos Technegol yn ystyried cau pysgodfeydd penodedig. Fodd bynnag, mae CNC yn dod i'r casgliad y byddai hyn yn arwain at effeithiau economaidd-gymdeithasol anghymesur, a bod dull dal a rhyddhau gorfodol yn well na chau pysgodfeydd.

Trafodwyd yr is-ddeddfau arfaethedig newydd yng Nghyfarfod Bwrdd CNC ar 18 Ionawr 2018.

Mae Atodiad 4 o'r papurau a gyflwynwyd i Fwrdd CNC yn edrych ar bob un o'r mesurau rheoli amgen a gynigiwyd yn ystod y broses ymgynghori, a fyddant yn cael eu mabwysiadu, a rhesymau CNC dros y penderfyniad mabwysiadu.

Mae Atodiad 6 yn rhoi manylion am drefniadau rheoli tebyg ar gyfer awdurdodaethau eraill. Mae'n dweud bod y gweithdrefnau'n arwain at ganlyniadau tebyg yn gyffredinol yn yr Alban, Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Mae gan Lywodraeth yr Alban y mesurau rheoli canlynol:

Mae Rheoliadau Cadwraeth Eogiaid (Yr Alban) 2016: -

·         Yn gwahardd cadw eogiaid a ddaliwyd mewn dyfroedd arfordirol 

·         Yn caniatáu cadw eogiaid a ddaliwyd mewn afonydd lle mae'r stociau'n uwch na therfyn cadwraeth diffiniedig

·         Yn gofyn am ddull pysgota dal a rhyddhau gorfodol lle mae stociau'n disgyn yn is na'u terfyn cadwraeth. 

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd wedi cynnig mesurau newydd i fynd i'r afael â dirywiad mewn stociau eogiaid.

Cofnodion Bwrdd CNC

Nid yw cofnodion cyfarfod Bwrdd CNC ar 18 Ionawr 2018 ar gael yn gyhoeddus ar adeg ysgrifennu'r papur briffio hwn. Mae copi ar gael i'r Cynulliad a bydd ar gael ar wefanCNC yn y dyfodol agos. Mae'r cofnodion yn dweud:

Nododd y Bwrdd y pryderon cryf a fynegwyd gan randdeiliaid drwy ohebiaeth e-byst a gyflwynwyd cyn cyfarfod y Bwrdd.  Roedd yr holl ohebiaeth wedi cael ei rhannu â holl aelodau'r Bwrdd.

Yn ôl cofnodion y cyfarfod, tynnodd cyflwyniad gan Brif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC, Pete Gough, sylw at:

·         Ddiwygiadau i'r cynigion gwreiddiol, mewn ymateb i'r sylwadau a'r cyngor a gafwyd, gan gynnwys y math o fachyn ar lithiau a phlu, y defnydd tymhorol o ferdys fel abwyd, a diwedd cynnar arfaethedig ar gyfer dal a rhyddhau ar Afon Wysg;  

·         Y broses dwy flynedd a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr ystyriwyd ei bod yn rhy hir ac angen ei gwella;  

·         Yr angen i wella gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid er mwyn adeiladu ffydd;

·         Mae arferion dal a rhyddhau presennol yn dda ond mae angen eu gwella; ac 

·         Mae bron yr holl stociau eogiaid yn dirywio'n barhaus, ond mae hyn o ganlyniad i gasgliad cymhleth o resymau.

Yn ôl y cofnodion, "ar ôl llawer o drafod," rhoddodd y Bwrdd gymeradwyaeth i gais i Lywodraeth Cymru am y newidiadau arfaethedig i'r is-ddeddfau. Cefnogodd Tîm Gweithredol CNC y cynigion.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyn ymgynghoriad 2017 gan CNC, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb  P-05-703 Cynnig i ohirio'r Cyfyngiadau ar Bysgota yn Afonydd Cymru. Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ar 13 Medi 2018 a chytunodd i'w chau. Cytunodd hefyd i anfon sylwadau'r deisebydd at Cyfoeth Naturiol Cymru cyn ei ymgynghoriad arfaethedig ar fesurau rheoli stoc eogiaid a oedd i'w gynnal ddiwedd 2016/dechrau 2017 yn wreiddiol.

Mewn cwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2018, gofynnodd Neil Hamilton AC i Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, roi barn ynglŷn â "chynigion... i roi polisi dal a rhyddhau gorfodol ar waith am 10 mlynedd". Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod hi'n "aros i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno eu hargymhellion".

Cododd Neil Hamilton AC y mater o "ysglyfaethu gan adar sy'n bwyta pysgod" a "graddau llygredd afonydd". Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet fod "cryn dipyn o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd", gan nodi y bydd yn "gofyn i'r Gweinidog dros yr Amgylchedd godi hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyfarfod rheolaidd nesaf".

Ar 15 Chwefror 2018, gofynnodd Janet Finch-Saunders AC gwestiwn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig iddi "roi cyfiawnhad dros yr argymhelliad... y dylid cyflwyno polisi dal a rhyddhau". Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

NRW will now make a formal application to me to determine the byelaws under the Water Resources Act 1991.

Once I receive the formal application from NRW, hopefully later this month, I will consider the range of issues in detail before making a determination in line with the process set out in the Act. However, until this process is completed I am unable to comment further on the proposals

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.